Mae dolydd blodau gwyllt - dolydd byw - yn feysydd hynod sy'n cynnwys toreth o fywyd gwyllt, gyda photensial i greu buddion economaidd ac amgylcheddol. Maent wedi bod yn diflannu'n gyflym o gefn gwlad. Erbyn heddiw, mae llai na 3.3% o gefn gwlad Cymru yn feysydd prydferth llawn blodau gwyllt, pili-palaod ac adar. Mae'r rhan fwyaf sy'n weddill yn fach iawn ac i'w gweld yn bennaf ar dyddynnod, neu'n gysylltiedig ag adeiladau preswyl nad ydynt yn ffermydd masnachol. Nawr yw'r amser i wrth-droi'r sefyllfa honno.
Cyhoeddir Ein Dolydd Byw - Maniffesto ar gyfer Dolydd Byw Cymru ar 21 Ebrill gan Flora locale a'r Grasslands Trust er mwyn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru, ffermwyr, tirfeddianwyr, awdurdodau lleol a grwpiau cadwraeth o'r sefyllfa ddyrys hon, a chymryd camau i adfer, cynnal ac ymestyn ardaloedd bywyd gwyllt gwerthfawr fel eu bod yn cynrychioli 5% o gefn gwlad erbyn 2015.
Iolo Williams, cyflwynydd teledu a noddwr Menter Dolydd Byw Cymru sy'n arwain yr ymgyrch: "Mae dros 98% o'n glaswelltiroedd blodau gwyllt wedi diflannu dros y 60 blynedd diwethaf, ynghyd ag amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Mae dolydd blodau gwyllt - Dolydd Byw - yn icon o gefn gwlad Prydain. Rhaid i ni weithredu'n syth er mwyn achub y cynefinoedd bywyd gwyllt gwych yma".
Esboniodd Ivy Berkshire, swyddog project Menter Dolydd Byw Cymru ac yn aelod o deulu fferm yn Sir Gâr: "Mae dolydd byw yn laswelltiroedd blodau gwyllt sy'n cynnwys pob math o bryfed sy'n darparu system cynnal bywyd adar ac anifeiliaid gwyllt eraill.
Mae llawer o'r dolydd byw wedi'u diogelu'n gyfreithiol fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), ond mae'r mwyafrif (pedwar allan o bump) mewn cyflwr gwael iawn ac wedi colli llawer o'u blodau gwyllt a'r bywyd gwyllt cysylltiedig, megis y gylfinir a brith y gors."
Ychwanegodd James Robertson, ffermwr organig ar Ynys Môn gyda nifer o ddolydd byw (
www.tyddynadda.org.uk): "Tra bod rhai dolydd byw o dan fygythiad oherwydd ffermio dwys, mae llawer o rai eraill yn colli eu blodau gwyllt oherwydd nid ydynt yn cael eu pori neu dorri am wair. A ger ein trefi mae bygythiad i ddolydd gan dai a ffyrdd newydd, neu oherwydd eu defnydd fel padogau ceffylau. Mae'r Maniffesto yn argymell gweithredu i adfer y caeau prydferth hyn o fewn tirwedd Cymru, ac atal unrhyw golledion neu ddinistr pellach".
Ein Dolydd Byw - Maniffesto ar gyfer Dolydd Byw Cymru yn galw am:
· Pobl i werthfawrogi a deall dolydd byw Cymru fel ased pwysig i ffermio a chefn gwlad
· Rheoli dolydd byw wedi'u diogelu'n gyfreithiol (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig/SSSI) a threfnu diogelwch cyfreithiol ar gyfer y gorau o'r gweddill
· Rhoi statws safle bywyd gwyllt lleol i laswelltiroedd a dolydd eraill
· Gwella cynlluniau amaeth-amgylchedd er mwyn cefnogi ffermwyr, gan eu helpu i gynnal, adfer ac ymestyn dolydd byw ar eu tir
· Cydnabod ac ychwanegu gwerth cig eidion ac oen Cymru wedi'u magu ar laswelltiroedd blodau gwyllt
· Cynllunwyr a chynghorwyr i gydnabod pwysigrwydd dolydd byw ar gyrion trefi a dinasoedd fel 'ysgyfaint gwyrdd' a'u diogelu rhag datblygiadau tai, ffyrdd a pharciau busnes
· Mwy o gymorth i brojectau lleol sy'n helpu tirfeddianwyr i gynnal, adfer ac ymestyn dolydd byw - megis menter glaswelltiroedd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent (tudalen 14 o'r maniffesto).
Bydd buddsoddi i ddiogelu ac adfer dolydd byw yn awr yn arwain at fuddion i economi, treftadaeth ac amgylchedd Cymru. Wrth gyflwyno'r holl fesurau a amlinellwyd yn y Maniffesto, dylai fod yn bosibl i wireddu amcanion Strategaeth Amgylchedd Cymru mewn cysylltiad â dolydd byw.
Ein Dolydd Byw - Maniffesto ar gyfer Dolydd Byw Cymru yn rhan o fenter tair blynedd o dan arweiniad Flora locale, yr elusen adfer planhigion gwyllt, yn cydweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chyrff cadwraeth i hyrwyddo adfer, rheoli a gwerthfawrogi glaswelltiroedd blodau gwyllt.
Mae'r fenter hefyd wedi trefnu ymweliadau â ffermydd, gwefan newydd
www.wildmeadows.org.uk a grantiau i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr adfer ac ymestyn dolydd byw ar eu tir.
Cyllidir Menter Dolydd Byw Cymru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Esmée Fairbairn Foundation. Yn ogystal, cefnogwyd gan Buglife, Butterfly Conservation, FWAG Cymru, Grasslands Trust, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, PONT a'r gymdeithas ffermwyr Tir Gofal. Mae Flora locale hefyd yn cydweithio'n agos â chyrff eraill yng Nghymru, yn cynnwys ymddiriedolaethau bywyd gwyllt lleol a Plantlife.
www.wildmeadows.org.uk
Lleoliad Dolydd Byw Cymru
Mae'r dolydd byw prin sy'n dal i fodoli wedi'u gwasgaru ar draws y wlad. Mae'r cadarnleoedd yn y gorllewin: sir Benfro, Ceredigion a sir Gâr; y de ddwyrain a Bannau Brycheiniog. Mae'r gweddill yn tueddu i fod yn fach, yn aml yn llai na dau hectar ac mewn llawer o ardaloedd ymylon ffyrdd yw lloches olaf blodau dolydd byw.
Fel arfer bydd glaswelltiroedd ar galchfaen yn cynnwys llawer o flodau gwyllt. Gwelir yn bennaf ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar glogwyni arfordir y de orllewin a gogledd orllewin. Mae Penrhyn Gwyr, ardal Castellmartin, Stâd Stackpole a'r Gogarth yn safleoedd allweddol sy'n cynnwys planhigion prin o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae'r wefan yn datblygu rhestr o ddolydd byw y gellir ymweld â nhw
www.wildmeadows.org.uk ac mae Flora locale yn trefnu digwyddiadau dolydd byw ar draws y wlad eleni. Yn ogystal bydd Grwp Dolydd Sir Fynwy yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored. Manylion ar y wefan.
Dolydd Byw o dan fygythiad
Wedi diflannu - Crossgates, Powys
Er y gwrthwynebiad sylweddol yn lleol, bwriedir adeiladu 16 ty ar ddôl 1.5h hectar yn Crossgates, ger Llandrindod. Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio gan Gyngor Sir Powys yn 2007, er bod polisïau gan y Cyngor a ddylai fod yn diogelu safleoedd bywyd gwyllt rhag eu datblygu. Mae cynllun i symud rhannau o'r ddôl yn debyg o fethu.
O dan fygythiad - Meysydd Eithinog & Bragdy, Bangor
Rhan o glytwaith o gaeau, cloddiau, perthlys a gwlyptiroedd, sy'n gartref i degeirianau gwyllt a dros 20 math o wahanol pili-palaod. Mae'r ardal wedi bod yn destun protest amgylcheddol hir dymor yn erbyn cynllun i adeiladu tai yno. Cyngor Gwynedd yw perchennog y dolydd, a ddefnyddiwyd am 60 blynedd gan lawer o bobl leol oherwydd dyma'r unig ddarn o dir agored yn y rhan hon o Fangor.
O dan fygythiad (eto) - Lefelau Gwent
Collwyd oddeutu 40% o'r lefelau gwreiddiol, un o'r corsydd iseldir gwyllt diwethaf yng Nghymru, i ddatblygiadau diwydiannol, ffyrdd a thai. Ar hyn o bryd mae Lefelau'r Gogledd o dan fygythiad cynllun i adeiladu ffordd i liniaru traffig ar yr M4.
Achubwyd - Argloddiau Cronfeydd Llanishen a Llysfaen, Caerdydd
Yn dilyn brwydr hir yn yr uchel lys, achubwyd safle dolydd byw poblogaidd sy'n cynnwys llawer o ffyngau cap cwyr rhag datblygiad tai. Yn dilyn yr achos llys, llwyddodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru i ddiogelu'r ardal fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Ein Dolydd Byw - Maniffesto ar gyfer Dolydd Byw Cymru wedi'i ysgrifennu gan James Robertson (ffermwr ar Ynys Môn a golygydd Natur Cymru), Sue Everett ac Ivy Berkshire (Flora locale) ar sail ymchwil gan Miles King (The Grasslands Trust) a chyfraniadau gan lawer o unigolion a chyrff eraill.
Copïau argraffedig o'r Maniffesto
gan
info@floralocale.org neu gellir ei lwytho o
www.wildmeadows.org.uk
Diwedd
Ymholiadau'r wasg
· Ivy Berkshire, Menter Dolyddd Byw Cymru: 07912 789003 ebost:
wildmeadows.ivy@googlemail.com · Sue Everett, ymgynghorydd technegol Flora locale: 01635 847164, 07779 204015 ebost:
wildmeadows.sue@ntlworld.com · James Robertson, perchennog dolydd byw, Ynys Môn: 01248 422223 ebody:
jamrobertson@gmail.com · Dr Ruth Watkins, perchennog dolydd byw, ffermwr yn sir Gâr ac ymgynghorydd i'r Gymdeithas Cig Eidion: 01550 740660
Golygyddion
Flora localeMae Flora locale yn ceisio adfer planhigion a chymunedau planhigion gwyllt ar diroedd a thirweddau ar draws y DU. Wrth wneud hynny bydd yn gwella bioamrywiaeth, ansawdd yr amgylchedd a mwynhad o ardaloedd trefol a chefn gwlad. Ers 1998, mae Flora locale wedi hyrwyddo arferion da ym maes adfer dolydd byw ar draws y Deyrnas Unedig, wrth ddarparu cyngor technegol, cydweithio â llunwyr polisïau a fferiwyr, a threfnu digwyddiadau hyfforddi rhad ar gyfer rheolwyr tir. Flora locale, elusen gofrestredig, Cymru a Lloegr rhif 1071212, yn yr Alban rhif SC039001 ac yn gwmni cofrestredig trwy warant yn y DU, rhif 3539595.
www.floralocale.org
The Grasslands TrustYr Ymddiriedolaeth yw'r unig elusen genedlaethol yn gweithio'n benodol i ddiogelu glaswelltiroedd blodau gwyllt. Sefydlwyd yn 2002 mewn ymateb i'r argyfwng yn wynebu ein dolydd gwyllt ac ers hynny mae wedi codi dros £1.5 miliwn er mwyn cynnal y cynefin hynod yma. Mae'r elusen yn ymgyrchu i ddiogelu glaswelltiroedd, cefnogi gwaith cadwraeth yn uniongyrchol, darparu cyngor a gwybodaeth, a gwella ymwybyddiaeth. The Grasslands Trust, elusen gofrestredig, Cymru a Lloegr rhif 1097893. Cwmni cofrestredig trwy warant 4443047.
www.grasslands-trust.org